Tivyside | Archive | 2005 | January | 18
From the Tivyside Advertiser, first published Tuesday 18th Jan 2005.
Yn sgil y drychineb anferthol a ddigwyddodd i'r gwledydd o gylch cefnfor India ychydig dros dair wythnos yn ôl mae llu o bobol wedi bod yn holi yn ddwys "Ble mae Duw yn hyn i gyd?" Os yw Duw yn gariad a thrugaredd, pam ei fod wedi caniatau i'r fath beth ddigwydd?
Nid oes atebion slic i'r fath gwestiynau. Pe byddai atebion rhwydd fe fyddent wedi cael eu cyflwyno ganrifoedd lawer yn ôl, oherwydd mae trychinebau o'r fath yn digwydd yn rheolaidd yn ein byd. Pe byddai'r atebion wedi eu cyflwyno byddai neb yn holi'r cwestiynau!
Nid dymuniad Duw oedd y drychineb hon, mae'n bwysig pwysleisio hynny; yn enwedig yn wyneb y ffaith fod ambell gwlt ffwndamentalaidd yn mynnu taw barn Duw ar y diwydiant rhyw yng Ngwlad Thai oedd hyn. Mae'r dehongliad creulon hwn o Dduw yn ei bortreadu fel rhyw Arlywydd Americannaidd (neu Brif Weinidog Prydeinig) sy'n cosbi'r `drwg' heb boeni'n ormodol am y `collateral damage' sy'n digwydd i'r diniwed. Mae'r portread yma o'r Brenin Mawr yn gwbl groes i'r datguddiad o Dduw sydd gennym yn Iesu, a gellir ei fwrw o'r neilltu ar unwaith.
Endyd `byw' yw'r Cread; ac mae'r broses o'r creu yn digwydd o hyd. Endyd `byw' yw'r byd naturiol yr ydym ni fel creaduriaid yn rhan ohono. Yn y portread sydd gennym o'r creu yn Llyfr Genesis gwelwn fod y ddynoliaeth, yn wryw ac yn fenyw, wedi eu gosod yng nghanol y Cread (Eden) i gydweithio â'r drefn sydd ohoni. Cyn gynted ag iddynt herio'r drefn honno a mynnu eu bod yn gwybod yn well na'r Creawdwr ei hun, drwy gymryd o ffrwyth y pren, fe ddigwyddodd trychineb.
Cydweithio â'r byd naturiol yw ein braint, nid ei herio. Er bod pobol yn gwybod, o brofiad milenia, fod tsunami yn digwydd yn `rheolaidd' yn y rhan yna o'r byd, ni ddefnyddiwyd adnoddau i geisio'i ragweld na'i reoli. Gwell gan y gwledydd ddefnyddio'u hadnoddau a'u technoleg i berffeithio'r gallu i ladd ein gilydd nag ar ffyrdd i ddeall a chydweithio â'r byd naturiol. Ymhellach, er y wybodaeth, mynwyd codi gwestai, ac yn sgil hynny trefi a phentrefi, ar lan y môr er mwyn plesio'r twristiaid. Herio natur yw hyn, yn yr un modd y mae pobol yn herio natur drwy adeiladu tai ar lannau afonydd sy'n dueddol i orlifo yma yng Nghymru, ac yna'n beio'r Bod Mawr pan fo llif yn digwydd!
Nid yw Duw yn segur yng nghanol y math yma o drychineb. Gwyddwn ei fod yn y sefyllfa o dystiolaeth cannoedd o bobol sydd wedi goroesi. Y mae'r Ysbryd Glân ar waith drwy'r holl wledydd yn symud calonnau a meddyliau pobol, yn mynnu eu bod yn ymateb yn greadigol i'r drychineb enbyd. Yn y digwyddiadau hyn y gwelwn Duw ar waith.
Mor hyfryd yw gallu sôn am yr ymateb rhyfeddol a fu yma yn ardal Llandysul fel enghraifft o'r ymateb hwn. Mewn ychydig dros pythefnos y mae'r pentref bychan hwn yn Nyffryn Teifi wedi codi ymhell dros £10,000. Trefnwyd digwyddiadau a chasgliadau o bob math gan eglwysi'r cylch mewn cydweithrediad â'i gilydd. Yn yr ymdrech y mae'r gymuned wedi dod yn nes, ac yn ystod Wythnos Weddi Dros Undod Cristnogol fel hyn y mae'n braf gallu cyhoeddi bod yr eglwysi wedi dod gymaint a hynny yn nes at ei gilydd yn ogystal. Mewn digwyddiadau fel hyn y mae presenoldeb Duw i'w brofi.
© Newsquest Media Group 2008